On Jun 24, 2014, Ann Corkett wrote:
> Cytuno a phawb: h.y. trio osgoi'r broblem, ond o blaid yr "h" lle
> mae ei hangen.
>
> Cofiwch, yr oedd "e-bost" wedi cydio cyn i Eiriadur yr Academi gael
> ei gyhoeddi. Mae gan Bruce "llythyru electronig" ar gyfer
> "electronic mail". Mae "mail" yn tueddu i olygu "post" yn yr ystyr
> "negeseuon" (h.y. y lluosog) . Ond yw hi'n biti nad oedd rhywun
> wedi meddwl am "e-neges" ('ryw'n amau mai yn gyntaf fyddai'r "e"
> wedi dod).
neges-e oedd fy nghynnig yn 1994 (ond o'n i'n meddwl mwy am y
cyfrwng a'r weithred). Daeth e-bost fel cyfrwng a neges e-bost
i ddefnydd ehangach yn 1994 heblaw am rai oedd yn parhau
i ddweud e-neges.
|