Yn hollol.
Gweler https://www.google.com/#q=parasetamol
Geraint
-----Original Message-----
From: Matthew Clubb [auc]
Sent: Tuesday, June 17, 2014 10:17 AM
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: treiglo enwau cyffuriau
Dyw 'Geiriadur yr Academi' ddim yn cytuno! Yn gyffredinol, wrth gwrs, ni
ddylid newid sillafiad enw cyffur - ond mae eithriadau i'w cael yng
Ngeiriadur yr Academi - e.e. parasetamol, penisilin, morffin, cocên.
Yn ôl Wicipedia, mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cyhoeddi sawl enw ar
barasetamol "WHO issues INNs in English, Latin, French, Russian, Spanish,
Arabic, and Chinese. A drug's INN names are often cognate across most or all
of the languages, but they also allow small inflectional, diacritic, and
transliterational differences that are usually transparent and trivial for
nonspeakers"
O wilmentan ar Wicipedia fe welwch fod defnyddwyr rhai ieithoedd eraill yn
addasu'r sillafiad - ac mae'r sillafiad 'parasetamol' i'w weld yn Affricaneg
a Thwrceg.
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Dafydd
Lewis
Sent: 16 Mehefin 2014 21:44
To: [log in to unmask]
Subject: Re: treiglo enwau cyffuriau
Dwi'n reit siwr na ddylid treiglo - mewn dogfennau 'swyddogol' - a dyma
bwynt arall gan Geraint, sef Cymreigio'r sillafu. Ni ddylid gwneud hynny
chwaith.
Ydi pawb yn cytuno?
Dafydd
On Mon, 16 Jun 2014 21:00:37 +0100, Geraint Lovgreen
<[log in to unmask]> wrote:
>"barasetamol" fyswn i'n sgwennu yn yr enghraifft yna.
>
>-----Original Message-----
>From: Sian Roberts
>Sent: Monday, June 16, 2014 7:26 PM
>To: [log in to unmask]
>Subject: Re: treiglo enwau cyffuriau
>
>Dibynnu ar y cyd-destun siwr o fod.
>
>Mewn nofel neu rywbeth fyddai "Sgin ti baracetamol ga i?" yn hollol
>dderbyniol.
>
>Ond swn i ddim yn sgrifennu "Cymerwch ddwy fetformin a dwy abapentin"!
>
>Si n
>
>
>
>On 2014 Meh 16, at 7:05 PM, Dafydd Lewis wrote:
>
>> Oes gan rhywun sylwadau ynghylch yr uchod?
>>
>> Os oes rhywun wedi treiglo 'paracecamol' (dyweder) - 'ei
>> pharacetamol' neu 'ei baracetamol' - ydy hynny'n dderbyniol, ynteu fasa'n
>> well peidio?
>>
>> (Er enghraifft, os treiglo enw cyffur oddi fewn i deitl astudiaeth,
>> fyddai llyfrgellwyr meddygol ddim yn medru cael hyd i'r papur mewn
>> cronfeydd
>> data?)
>>
>> Dafydd
>
>
>-----
>No virus found in this message.
>Checked by AVG - www.avg.com
>Version: 2014.0.4570 / Virus Database: 3964/7686 - Release Date:
>06/16/14
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4570 / Virus Database: 3972/7692 - Release Date: 06/17/14
|