Fel arfer byddwn i'n treiglo rhyw deitl megis "Uned Rwymo", ond nid
"Uned Rhymo Llyfrau". 'Rwyf wedi ceisio cael eglurhad gan Bruce, y
dysgais hyn ganddo - ond yn methu cael dim 'rwy'n ei ddeall yn ddigon
clir i'w ailadrodd. Beth bynnag, mae'r ddau ohonom yn ffafrio peidio a
threiglo yn y ddau achos - *efallai* nid yw gair yn medru gweithredu fel
ansoddair (gan dreiglo) ac fel enw/berfenw (sy'n magu ei ddisgrifiad ei
hun) yr un pryd - ond dyfalu ydw i.
Beth bynnag, oes rhaid ichi ddefnyddio "Resbiradol"? Pam nad Uned
Cymorth Anadlu?
Ann
On 17/06/2014 11:57, Dafydd Timothy wrote:
> Yng nghyd-destun iechyd:
>
> Fyddech chi'n treiglo y canlynol ar ôl 'uned'?
>
> High Dependency Unit
> Uned (D)Dibyniaeth fawr
>
> Respiratory Support Unit
> Uned C/Gymorth Resbiradol
>
> Uned Gymorth... jest yn swnio'n chwithig i fi!
> Uned 'Cymorth Resbiradol' yn swnio'n well!
>
> Diolch,
> Dafydd
>
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2014.0.4592 / Virus Database: 3964/7691 - Release Date: 06/17/14
>
>
|