('Y Doethur Wil Jones' sydd wedi gwneud y PhD, onidfa, Ddoethur Bullock? - ond cytuno, mae'n syndod pa mor aml mae'r fannod yna yn mynd ar goll ac yn newid yr ystyr yn llwyr!)
'Doctor' mae pobl yn ei ddefnyddio gan amlaf ar lafar, wrth gwrs. Ond serch hynny, os bydd rhywun yn cyfeirio at 'GP' 'meddyg teulu' yw'r ymadrodd cyffredin ar lafar, ddim 'doctor teulu'. Ac nid yw'r ffaith mai 'doctor' a glywir yn aml ar lafar yn golygu bod rhaid gollwng ymadrodd hollol naturiol fel 'meddyg teulu'.
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of David Bullock
Sent: 10 Mehefin 2014 10:39
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: GP
Diddorol iawn!
Eich pwnc trafod nesa:
Y gwahaniaeth rhwng 'y Doctor Wil Jones' (sef bachan o'r enw Wil sy wedi gwneud PhD) a 'Doctor Wil Jones' (sef meddyg y bachan Wil yma).
Bant â chi...
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 10 Mehefin 2014 10:16
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: GP
Does gen i ddim gwrthwynebiad o gwbl i glywed "doctor" ar y cyfryngau - rwy'n credu ei fod lawn cystal gair â "meddyg".
Wela i ddim pam na ddylai'r cyfryngau ddefnyddio'r un gair â 98.76% o'r boblogaeth. (Ymchwil anwyddonol!) I ba raddau rydych chi'n parhau â'r egwyddor hon sy'n achosi'r broblem!
Siân
On 2014 Meh 10, at 10:03 AM, Mary Jones wrote:
> Rwy'n derbyn hynny, ac rwy'n siwr mai 'doctor' ddweda inne hefyd. Ond
> sôn ydw i am y cyfryngau sy nawr fel petaen nhw'n derbyn mai 'doctor'
> yw'r gair Cymraeg, nid 'meddyg'.
> Mary
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
> Sian Roberts
> Sent: 10 June 2014 09:12
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ATB: GP
>
> Ond nid "ers sbel" mae hyn yn digwydd.
> Rwy dros fy hanner cant a "doctor" dw i wedi'i glywed erioed - ym
> Mhencader a Threfor. Eithriadau prin yw'r bobl sy'n mynd at y meddyg.
> Mae "meddyg teulu" yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destunau mwy ffurfiol.
>
> Ar y llaw arall, dwi'n cael yr argraff bod llawer mwy o bobl yn mynd
> i'r ysbyty dyddiau 'ma. I'r hospital roedd pawb yn mynd slawer dydd.
>
> Siân
>
>
>
>
> On 2014 Meh 10, at 8:55 AM, Huws, Howard wrote:
>
>> Y mae pobl yn cymryd eu harwain gan y cyfryngau. Gwrandewch Radio
>> Cymru, a
> sylwch pa mor aml y mae'r cyflwynwyr yn defnyddio "doctor/doctoriaid"
> yn hytrach na "meddyg/meddygon".
>>
>> ________________________________________
>> Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary <[log in to unmask]> ar ran Mary Jones
> <[log in to unmask]>
>> Anfonwyd: 09 Mehefin 2014 20:16
>> At: [log in to unmask]
>> Pwnc: Re: GP
>>
>> A gaf fi godi mater cysylltiedig yn sgil y cwestiwn hwn, os gwelwch
>> yn
> dda, heb newid teitl y drafodaeth? Rwy'n sylwi ers sbel fod nifer fawr
> o bobol, ar lafar ac ar bapur, nawr yn defnyddio 'doctor' yn hytrach
> na 'meddyg'. Ond dydw i ddim wedi clywed 'doctor teulu' eto chwaith!
> Rhyfedd fel mae arferion 'diog' (?) yn gwreiddio mor gyflym, ond bod
> ymadroddion/termau newydd mor styfnig i dyfu!
>> Mary
>>
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Lewis
>> Sent: 08 June 2014 23:44
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: GP
>>
>> Ydi hi'n dderbyniol defnyddio'r acronym 'GP' am feddyg teulu?
>>
>> Dafydd
|