Dibynnu ar y cyd-destun - pa mor ffurfiol.
Mae David Thorne yn dweud bod "ganddon" a "ganddoch" yn cael eu defnyddio "in varieties of spoken Welsh" ond does dim sôn am "gynnon ni".
Oes pobl yn dweud "ganddoch" yn naturiol - ta ryw ymdrech i fod yn ffurfiol heb fynd mor bell â dweud "gennych" yw hi?
Siân
On 2014 Meh 2, at 10:25 AM, Dafydd Timothy wrote:
> Bore da!
>
> Ydych chi'n weddol gyfforddus yn defnyddio :
>
> 'gynnon ni' yn lle 'gennym'
> a
> 'ganddoch chi' yn lle 'gennych' ?
>
> Maen nhw'n dderbyniol, on'd ydyn nhw?
>
> Diolch,
> Dafydd
|