Cyffordus yn defnyddio gynnon ni ond yn llai cyfforddus a 'ganddoch' am mai dim ond yn y 3ydd person mae'r 'dd' i fod. Byddai 'gynnoch' yn fwy naturiol fel ffurf lafar/anffurfiol. Ffurf 'gwneud' mewn ffordd yw 'ganddoch' ond mae'n ddifyr clywed pobl yn dechrau defnyddio 'iddoch chi' ar lafar erbyn hyn. Mae'n amlwg bod yr 'dd' yn gwthio'i hun i bobman. Ddim yn teimlo'n ofnadwy o gryf am hyn -mae'n amlwg yn rhywbeth sy'n dod yn fwyfwy cyffredin, ond fyddwn i ddim ysgrifennu 'ganddoch' chi fy hun. Hollol gyfforddus efo gynnon/gynnoch. Ond dim ond barn bersonol.
Carolyn
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Timothy
Sent: 02 Mehefin 2014 10:26
To: [log in to unmask]
Subject: gynnon ni / ganddoch chi
Bore da!
Ydych chi'n weddol gyfforddus yn defnyddio :
'gynnon ni' yn lle 'gennym'
a
'ganddoch chi' yn lle 'gennych' ?
Maen nhw'n dderbyniol, on'd ydyn nhw?
Diolch,
Dafydd
|