Yr 'egwyddor', os dyna yw hi, sy'n fy mlino yw mai'r cyfryngau erbyn hyn
sy'n pennu beth yw ffurf dderbyniol fy iaith i. Ac yn fy marn i pobol y
cyfryngau yw'r lleiaf addas i wneud hynny. Trueni mawr, hefyd, waeth mae
ganddyn nhw gymaint o ddylanwad sy'n gallu bod yn fuddiol, er enghraifft, i
ledaenu defnyddio termau newydd - sy'n bwysig i gyfieithwyr, siwr o fod.
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 10 June 2014 10:16
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: GP
Does gen i ddim gwrthwynebiad o gwbl i glywed "doctor" ar y cyfryngau -
rwy'n credu ei fod lawn cystal gair â "meddyg".
Wela i ddim pam na ddylai'r cyfryngau ddefnyddio'r un gair â 98.76% o'r
boblogaeth. (Ymchwil anwyddonol!) I ba raddau rydych chi'n parhau â'r
egwyddor hon sy'n achosi'r broblem!
Siân
On 2014 Meh 10, at 10:03 AM, Mary Jones wrote:
> Rwy'n derbyn hynny, ac rwy'n siwr mai 'doctor' ddweda inne hefyd. Ond
> sôn ydw i am y cyfryngau sy nawr fel petaen nhw'n derbyn mai 'doctor'
> yw'r gair Cymraeg, nid 'meddyg'.
> Mary
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
> Sian Roberts
> Sent: 10 June 2014 09:12
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ATB: GP
>
> Ond nid "ers sbel" mae hyn yn digwydd.
> Rwy dros fy hanner cant a "doctor" dw i wedi'i glywed erioed - ym
> Mhencader a Threfor. Eithriadau prin yw'r bobl sy'n mynd at y meddyg.
> Mae "meddyg teulu" yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destunau mwy ffurfiol.
>
> Ar y llaw arall, dwi'n cael yr argraff bod llawer mwy o bobl yn mynd
> i'r ysbyty dyddiau 'ma. I'r hospital roedd pawb yn mynd slawer dydd.
>
> Siân
>
>
>
>
> On 2014 Meh 10, at 8:55 AM, Huws, Howard wrote:
>
>> Y mae pobl yn cymryd eu harwain gan y cyfryngau. Gwrandewch Radio
>> Cymru, a
> sylwch pa mor aml y mae'r cyflwynwyr yn defnyddio "doctor/doctoriaid"
> yn hytrach na "meddyg/meddygon".
>>
>> ________________________________________
>> Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary <[log in to unmask]> ar ran Mary Jones
> <[log in to unmask]>
>> Anfonwyd: 09 Mehefin 2014 20:16
>> At: [log in to unmask]
>> Pwnc: Re: GP
>>
>> A gaf fi godi mater cysylltiedig yn sgil y cwestiwn hwn, os gwelwch
>> yn
> dda, heb newid teitl y drafodaeth? Rwy'n sylwi ers sbel fod nifer fawr
> o bobol, ar lafar ac ar bapur, nawr yn defnyddio 'doctor' yn hytrach
> na 'meddyg'. Ond dydw i ddim wedi clywed 'doctor teulu' eto chwaith!
> Rhyfedd fel mae arferion 'diog' (?) yn gwreiddio mor gyflym, ond bod
> ymadroddion/termau newydd mor styfnig i dyfu!
>> Mary
>>
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Lewis
>> Sent: 08 June 2014 23:44
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: GP
>>
>> Ydi hi'n dderbyniol defnyddio'r acronym 'GP' am feddyg teulu?
>>
>> Dafydd
|