Ond nid "ers sbel" mae hyn yn digwydd.
Rwy dros fy hanner cant a "doctor" dw i wedi'i glywed erioed - ym Mhencader a Threfor. Eithriadau prin yw'r bobl sy'n mynd at y meddyg.
Mae "meddyg teulu" yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destunau mwy ffurfiol.
Ar y llaw arall, dwi'n cael yr argraff bod llawer mwy o bobl yn mynd i'r ysbyty dyddiau 'ma. I'r hospital roedd pawb yn mynd slawer dydd.
Siān
On 2014 Meh 10, at 8:55 AM, Huws, Howard wrote:
> Y mae pobl yn cymryd eu harwain gan y cyfryngau. Gwrandewch Radio Cymru, a sylwch pa mor aml y mae'r cyflwynwyr yn defnyddio "doctor/doctoriaid" yn hytrach na "meddyg/meddygon".
>
> ________________________________________
> Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> ar ran Mary Jones <[log in to unmask]>
> Anfonwyd: 09 Mehefin 2014 20:16
> At: [log in to unmask]
> Pwnc: Re: GP
>
> A gaf fi godi mater cysylltiedig yn sgil y cwestiwn hwn, os gwelwch yn dda, heb newid teitl y drafodaeth? Rwy'n sylwi ers sbel fod nifer fawr o bobol, ar lafar ac ar bapur, nawr yn defnyddio 'doctor' yn hytrach na 'meddyg'. Ond dydw i ddim wedi clywed 'doctor teulu' eto chwaith! Rhyfedd fel mae arferion 'diog' (?) yn gwreiddio mor gyflym, ond bod ymadroddion/termau newydd mor styfnig i dyfu!
> Mary
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Lewis
> Sent: 08 June 2014 23:44
> To: [log in to unmask]
> Subject: GP
>
> Ydi hi'n dderbyniol defnyddio'r acronym 'GP' am feddyg teulu?
>
> Dafydd
|