Dwi'n clywed defnyddio "gynno ni" a "ginno ni" am "gennym ni" ar lafar, a "gynno chi" a "ginno chi" am "gennych chi". Math ar ful ydi "ganddoch chi", rhyw groesiad rhwng "ganddo fo/hi" a "gennych chi". Wir, ddown ni byth i ben ar geisio dynwared yr iaith lafar wrth ysgrifennu'n ffurfiol neu'n lled-ffurfiol . 'Dyw hynny, yn y diwedd, ond yn amhlau ffurfiau sy'n dywyll i bawb heblaw'r ysgrifennwr: felly gwell cadw at "gennym" a "gennych", sy'n gwbl ddealladwy gan bawb.
________________________________________
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> ar ran Dafydd Timothy <[log in to unmask]>
Anfonwyd: 02 Mehefin 2014 10:25
At: [log in to unmask]
Pwnc: gynnon ni / ganddoch chi
Bore da!
Ydych chi'n weddol gyfforddus yn defnyddio :
'gynnon ni' yn lle 'gennym'
a
'ganddoch chi' yn lle 'gennych' ?
Maen nhw'n dderbyniol, on'd ydyn nhw?
Diolch,
Dafydd
|