Fel rheol (ond dim bob tro - dibynnu sut rŷch chi'n gweld y berthynas rhwng y geiriau!):
Uned Ddibyniaeth / Uned Gymorth
ond Uned Dibyniaeth Uchel (Google yn ffindio 117 enghraifft) / Uned Cymorth Resbiradol
fel
Gorsaf Bwmpio ond Gorsaf Pwmpio Carthion
Siop Lyfrau ond Siop Llyfrau Cristnogol
gw. Y Golygiadur tud 384
(Dim ond 5 enghraifft o Uned Dibyniaeth Fawr mae Google yn eu ffeindio - pob un gan y Cynulliad)
Siân
On 2014 Meh 17, at 11:57 AM, Dafydd Timothy wrote:
> Yng nghyd-destun iechyd:
>
> Fyddech chi'n treiglo y canlynol ar ôl 'uned'?
>
> High Dependency Unit
> Uned (D)Dibyniaeth fawr
>
> Respiratory Support Unit
> Uned C/Gymorth Resbiradol
>
> Uned Gymorth... jest yn swnio'n chwithig i fi!
> Uned 'Cymorth Resbiradol' yn swnio'n well!
>
> Diolch,
> Dafydd
|