Dwi'n reit siwr na ddylid treiglo - mewn dogfennau 'swyddogol' - a dyma bwynt arall gan Geraint, sef Cymreigio'r sillafu. Ni ddylid gwneud hynny chwaith.
Ydi pawb yn cytuno?
Dafydd
On Mon, 16 Jun 2014 21:00:37 +0100, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:
>"barasetamol" fyswn i'n sgwennu yn yr enghraifft yna.
>
>-----Original Message-----
>From: Sian Roberts
>Sent: Monday, June 16, 2014 7:26 PM
>To: [log in to unmask]
>Subject: Re: treiglo enwau cyffuriau
>
>Dibynnu ar y cyd-destun siwr o fod.
>
>Mewn nofel neu rywbeth fyddai "Sgin ti baracetamol ga i?" yn hollol
>dderbyniol.
>
>Ond swn i ddim yn sgrifennu "Cymerwch ddwy fetformin a dwy abapentin"!
>
>Si�n
>
>
>
>On 2014 Meh 16, at 7:05 PM, Dafydd Lewis wrote:
>
>> Oes gan rhywun sylwadau ynghylch yr uchod?
>>
>> Os oes rhywun wedi treiglo 'paracecamol' (dyweder) - 'ei pharacetamol' neu
>> 'ei baracetamol' - ydy hynny'n dderbyniol, ynteu fasa'n well peidio?
>>
>> (Er enghraifft, os treiglo enw cyffur oddi fewn i deitl astudiaeth, fyddai
>> llyfrgellwyr meddygol ddim yn medru cael hyd i'r papur mewn cronfeydd
>> data?)
>>
>> Dafydd
>
>
>-----
>No virus found in this message.
>Checked by AVG - www.avg.com
>Version: 2014.0.4570 / Virus Database: 3964/7686 - Release Date: 06/16/14
|