Rwy newydd wneud hyn yn y frawddeg ddiwetha un i mi ei chyfieithu - share views > rhannu barn
"Barn" yn swnio'n fwy cyffredinol, am wn i - er y gall rhywun gael sawl gwahanol farn ac mae gan y gair dri lluosog - barnau, barnion a beirn.
Beth yw'ch beirn chi am y peth?
Siān
On 2014 Meh 11, at 2:57 PM, Osian Rhys wrote:
> Pnawn da gyfeillion
>
> Ceisio esbonio wrth rywun pam bod dweud 'barn' yn well na 'barnau' hyd yn oed os mai 'views' sy yn Saesneg.
>
> A chymryd eich bod chi'n cytuno, oes "rheswm" am hyn? Ac oes na enghreifftiau eraill?
>
> (Mae'r gwrthwyneb yn wir hefyd wrth gwrs - alla i ddim meddwl am enghraifft ond weithiau mae enw unigol yn y gwreiddiol Saesneg yn well o'i ddweud gydag enw lluosog yn Gymraeg...)
>
> Diolch yn fawr
>
> Osian
|