> Ceisio esbonio wrth rywun pam bod dweud 'barn' yn well na 'barnau' hyd yn
> oed os mai 'views' sy yn Saesneg.
Am mai dyna sy'n gywir. Rhydd i bawb ei...
> A chymryd eich bod chi'n cytuno, oes "rheswm" am hyn? Ac oes na
> enghreifftiau eraill?
Efallai am yr un rheswm mai "ei gilydd" sydd gan pob un.
> (Mae'r gwrthwyneb yn wir hefyd wrth gwrs - alla i ddim meddwl am enghraifft
> ond weithiau mae enw unigol yn y gwreiddiol Saesneg yn well o'i ddweud
> gydag enw lluosog yn Gymraeg...)
Brwsh dant, llyfr emyn, ac (er mai dyna gewch chi gan ambell
i fanc, gas gen i) llyfr siec.... Ail ged mai tith bryshes.
|