Roedd rhywbeth ar y newyddion yn ddiweddar am Aberaeron - ei gwneud yn "Dementia-friendly town".
Methu ffeindio dim byd swyddogol ond mae "tre dementia-gyfeillgar" i'w weld ar twitter ac mae Ceredigion wedi defnyddio "cymuned gyfeillgar i demensia" mewn cylchlythyr.
Dim yn ddelfrydol.
Dw i ddim yn cofio beth ddefnyddiodd y BBC - dim amser i chwilio'r archifau.
Siân
On 2014 Meh 2, at 11:04 AM, Dafydd Timothy wrote:
> Dwi'n ymwybodol ein bod yn gyffredinol yn defnyddio :
> 'hawdd i'w ddefnyddio' am 'user-friendly'.
>
> Beth am :
>
> 'dementia friendly'
> mewn cyd-destun ward ysbyty:
> Y frawddeg lawn ydi:
> 'A ward that...prides ourselves in being a dementia friendly ward'.
>
> Ward...sy'n ymfalchïo mewn bod yn:
>
> ward sy'n deall dementia
> .. cydymdeimlo â
> .. gweithio gyda
> ward cyfeillgar i ddementia
> ward sy'n gyfeillgar i ddementia
>
> Diolch eto,
> Dafydd
|