Os ydan ni am ddechrau collfarnu pobol am ddefnyddio "doctor/doctoriaid"
bydd rhaid cynnwys y rhan fwyaf o'n llenorion clasurol fel Kate Roberts,
Saunders Lewis ac ati.
Ond mae "hosbitol" yn graddol gael ei ddisodli gan "ysbyty", felly dydi hi
ddim yn ddu i gyd, Howard!
-----Original Message-----
From: Huws, Howard
Sent: Tuesday, June 10, 2014 8:55 AM
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: GP
Y mae pobl yn cymryd eu harwain gan y cyfryngau. Gwrandewch Radio Cymru, a
sylwch pa mor aml y mae'r cyflwynwyr yn defnyddio "doctor/doctoriaid" yn
hytrach na "meddyg/meddygon".
________________________________________
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
<[log in to unmask]> ar ran Mary Jones
<[log in to unmask]>
Anfonwyd: 09 Mehefin 2014 20:16
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: GP
A gaf fi godi mater cysylltiedig yn sgil y cwestiwn hwn, os gwelwch yn dda,
heb newid teitl y drafodaeth? Rwy'n sylwi ers sbel fod nifer fawr o bobol,
ar lafar ac ar bapur, nawr yn defnyddio 'doctor' yn hytrach na 'meddyg'. Ond
dydw i ddim wedi clywed 'doctor teulu' eto chwaith! Rhyfedd fel mae arferion
'diog' (?) yn gwreiddio mor gyflym, ond bod ymadroddion/termau newydd mor
styfnig i dyfu!
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Lewis
Sent: 08 June 2014 23:44
To: [log in to unmask]
Subject: GP
Ydi hi'n dderbyniol defnyddio'r acronym 'GP' am feddyg teulu?
Dafydd
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4570 / Virus Database: 3955/7648 - Release Date: 06/09/14
|