Diolch, Bethan. 'Roeddwn i wedi cymryd mai un o Ynys Mon ydych chi. A
oes gennych chi gof o ble, neu gan bwy, a gawsoch yr ymadrodd?
Ann
On 25/05/2014 18:42, Bethan Jones wrote:
> Ydw - reit gyfarwydd hefo hwn.
>
>
>
> Cofion
> Bethan
> [log in to unmask]
> Skype: bethan.wyn.jones.talwrn
> Cae Chwarel, Talwrn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TF
> -----Original Message----- From: Ann Corkett
> Sent: Sunday, May 25, 2014 5:16 PM
> To: [log in to unmask]
> Subject: fel barn ar datws
>
> Diolch i esiampl Sylvia Prys Jones, 'rwyf wedi dechrau darllen hen, hen
> nofelau ditectif Cymraeg. Soniais wrth Bruce y bore 'ma am ymadrodd
> mewn un ohonynt (o ddechrau'r tridegau), fod rhywun "fel barn ar datws"
> ac 'roedd Bruce wrth ei fodd. Nid oedd erioed wedi gweld yr ymadrodd ar
> ddu a gwyn, dim ond ei glywed gan ei fam a oedd, 'roedd o'n amau'n gryf,
> wedi'i gael gan ei thad. Mae'n disgrifio rhywun sydd yn bla, ac yn bali
> niwsans, a chymerai mai "potato blight" fyddai "barn ar datws".
>
> O edrych yn y Cydymaith, cawsom fod awdur y nofel a thaid Bruce yn dod
> o'r un ardal.
>
> Tybed a oes 'na rai eraill sy'n gyfarwydd a'r ymadrodd? Gyda'r un ystyr?
> O ba ardal?
>
> Llawer o ddiolch,
>
> Ann
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2014.0.4592 / Virus Database: 3950/7559 - Release Date: 05/25/14
>
>
|