Er nad oes modd defnyddio'r We wrth sefyll arholiadau cyfieithu
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, credaf - os nad yw pethau wedi newid - bod
croeso i bobl lwytho geirfaoedd ar 'go bach' a dod a hwnnw i mewn i'r
ystafell arholiad. Yn achos arholiadau o'r Gymraeg i'r Saesneg, a chan
gofio'r diffyg geiriadur Cymraeg-Saesneg cynhwysfawr, oni fyddai'n werth
dadlwytho ffeiliau .pdf chwiliadwy fersiwn cyntaf Geiriadur y Brifysgol
- http://www.cymru.ac.uk/geiriadur/gpc_pdfs.htm#DANGOSEIRIAU - a mynd a
nhw i'r arholiad. Nid oes amser mewn arholiad i chwilio am *lawer* o
eiriau a ddylai fod yn gyfarwydd, ond 'rwy'n siwr y byddai'r ffeiliau
hyn yn help i gynhyrchu cyfieithiad mwy caboledig os deir ar draws air
anarferol a phwysig.
Dim ond syniad ...
Ann
|