Bore da bawb,
Pennawd sydd gen i. Y pennawd llawn yw:
Get focused - Pray4YourPolice
Yna, mae'n mynd ymlaen i roi cyngor ynglŷn â gweddio dros eich heddlu (darganfod enwau swyddogion eich tîm plismona bro a gweddio drostynt yn ôl eu henwau, darllen papurau newydd a gweddio dros unrhyw swyddog sydd wedi'i anafu ag ati).
Rhaid cyfaddef, sai'n hoff iawn o "Ffocyswch". Ar hyn o bryd, yr hyn sydd gen i yw:
"Hoelio Sylw - Gweddiwch Dros Eich Heddlu". Ond a fyddai "Hoeliwch Eich Sylw" yn well? Braidd yn hirwyntog efallai? Mae "Pray4YourPolice" yn ymddangos ar ddechrau'r ddogfen ar ben ei hun (teitl y darn), felly rwy'n awyddus i gadw "Gweddiwch Dros Eich Heddlu" yn hytrach na "Gweddio Dros Eich Heddlu".
Diolch ymlaen llaw am unrhyw gyngor.
Cofion gorau,
Meinir
|