Diolch Ann.
Dw i ddim wedi cyfieithu'r enw ond rwy' wedi dodi'r ystyr (hiraeth am
yr hyn a fu) mewn cromfachau.
Hwyl,
Deric,
On 02/04/2014, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:
> Faswn i ddim yn ei newid; 'rwy'n amau y byddai'r Cymry *a'r* Saeson a
> oedd yn oleu yn eu Beibl yn dweud yr un peth (ac, fel premiere, mae'n
> dod o iaith arall!). Wn i ddim a oes angen eglurhad ar gyfer
> cynulleidfa heddiw, ond efallai nad eich busnes chi, ond busnes y
> cwsmer, yw hynny. Fel arfer mae'n cael ei ddweud mewn ysbryd o hiraeth
> am bethau fel yr oeddent.
> Ann
> On 02/04/2014 12:48, Geraint wrote:
>> Fachgen
>> Mae'n braf gweld dy fod wrthi'n ddyfal
>> Ichabod mab Phinees (Llyfr 1 Samuel iv 19) yr ystyr yw 'heb glod' ac
>> fe'i defnyddir fel ymadrodd 'Ciliodd gogoniant o Israel' neu 'y glod a
>> aeth heibio'.
>> Geraint
>>
>> > Date: Wed, 2 Apr 2014 12:01:50 +0100
>> > From: [log in to unmask]
>> > Subject: "Ichabod"
>> > To: [log in to unmask]
>> >
>> > Annwyl gyfeillion,
>> > Rwy'n cyfieithu llyfr "Hanes Plwyf Penderyn" (Dewi Cynon) ac rwyf wedi
>> > dod ar draws yr uchod sydd yn ddirgel i mi. Mi fyddwn yn ddiolchgar am
>> > unrhyw eglurhad os gwelwch yn dda. Dyma'r frawddeg (wrth son am hen
>> > odynau calch):
>> > "Ond heddyw (sic) gellir cyhoeddi uwchben yr hen Odynau hyn,
>> > "Ichabod.". Mae y cwbl braidd erbyn hyn yn dir pori."
>> >
>> > Yn ddiolchgar,
>> > Deric Meidrum John,
>> > Abernant-y-Wenallt.
>> >
>> > --
>> >
>> > websites:
>> > Place-names in south Wales - http://someplacenamesinsouthwales.4t.com
>> > Enwau Lleoedd - https://sites.google.com/site/enwaulleoedddecymru/home
>> > Dylan and the Bont -
>> >
>> https://sites.google.com/site/dylanthomaspontardulais/home/dylan-and-the-bont
>
>
--
websites:
Place-names in south Wales - http://someplacenamesinsouthwales.4t.com
Enwau Lleoedd - https://sites.google.com/site/enwaulleoedddecymru/home
Dylan and the Bont -
https://sites.google.com/site/dylanthomaspontardulais/home/dylan-and-the-bont
|