O ran 'Ceudwll y Diafol', tybed a oes enghreifftiau eraill o 'ceudwll' mewn enw lle (nad yw'n gyfieithiad)? A yw/fu 'ceudwll' erioed yn air byw ar lafar? Mae 'ceunant' yn air llawer mwy cyffredin.
Rhaid bod enw Cymraeg, ond byddwn yn tybio nad 'Ceudwll y Diafol' mohono yn wreiddiol.
Dylan
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Ann Corkett
Anfonwyd: 30 Ebrill 2014 12:38
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: Devil's Gorge
Mae Bruce yn arfer dweud bod "Cythraul" yn llawer mwy naturiol mewn cyd-destun fel hwn nag y mae "Diafol", ond mi wna i holi.
Ann
On 30/04/2014 11:36, Sian Roberts wrote:
> Helo
>
> Roedd llawer o enghreifftiau o "Ceudwll y Diafol" ar y we ac ambell un o "Ceunant y Diafol" a "Ceunant y Cythraul".
> Mae'r ddau olaf yn swnio'n fwy tebygol ar gyfer "Gorge" ond mae llawer mwy o "Ceudwll".
> Dw i ddim yn gwybod ai camgyfieithu sydd wedi bod yma 'ta a yw'n enw gwreiddiol.
>
> Siān
>
>
>
> On 2014 Ebrill 30, at 11:16 AM, Dafydd Timothy wrote:
>
>> ...hefyd
>> Rhywun yn gwybod a oes Cymraeg cyfatebol i Devil's Gorge ym Mharc Gwledig Loggerheads yn Sir y Fflint?
>>
>>> Diolch,
>>> Dafydd
>>>
>>>
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2014.0.4570 / Virus Database: 3931/7416 - Release Date:
> 04/29/14
>
>
|