On Apr 11, 2014, Sylvia Prys Jones wrote:
> Beth wyt ti'n awgrymu felly Dafydd? Ddylwn i ddefnyddio 'crasho' - bydd pawb yn ei ddeall! Rhan o gyflwyniad iechyd a diogelwch ydi o ar gyfer staff newydd.
Efallai galle 'chwalfa' yn dod yn gyfarwydd ond i fi mae 'chwalu'
yn agosach i ddinistrio neu falurio yn lle gwrthdrawiad.
Mae rhewi yn fath o grash ond dyw pob crash ddim yn rhewi.
(e.e. rhaglen yn gorffen yn annisgwyl).
Mae crash/crashio (crasio?) yn fwy dealladwy a dwi ddim yn siwr
fod trosiad addas hyd yn oed mewn testun.
|