Diolch bawb! Dw i'n meddwl bod 'paratoi ac addasu' yn cynnwys yr holl
elfennau ac yn haws i bobl ddeall. Mae 'na esboniad yn dilyn beth bynnag
felly mae'n amlwg beth yw'r ystyr.
Carolyn
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Tomos
Sent: 19 Mawrth 2014 16:06
To: [log in to unmask]
Subject: Re: optimisation
On Mar 19, 2014, Carolyn wrote:
> Oes gan rywun gynnig gwell nag optimeiddio? Cyfarwyddiadau syml i bobl
> am sut mae gwneud eu gwefannau?n haws i bobl ddod o hyd iddyn nhw sydd
> gen i ac maen nhw?n s?n am ?on-page optimisation?. Mae?r gwaith yn
> cynnwys sgriptiau llafar a dw i?n teimlo bod ?optimeiddio? yn ofnadwy
> o jargonllyd mewn cyd-destun anffurfiol.
Addasu yw'r unig derm alla'i feddwl sy'n cwmpasu popeth sydd ynghlwm ac
'optimisation' (sydd a ystyr penodol ond eang yng nghyd-destun gwefannau).
h.y. addasu testun i fod yn fwy perthnasol a cynnwys geiriau allweddol neu
bwysig ; addasu cod i fod yn hygyrch; addasu teitlau, disgrifiad meta;
Mae'n bosib gwneud hyn o'r cychwyn yn hytrach nag addasu nes ymlaen, ond mi
fydd addasu yn gorfod digwydd o hyd wrth i gynnwys newid ac i algorithm
peiriannau chwilio newid.
Mi fyddai ymadrodd fel "addasu a gwella" yn neud y tro falle?
|