On Mar 14, 2014, Gareth Evans Jones wrote:
> Timeout (e.e. Timout error), Timed Out (berf), Boot a Boot Up (dwi'n cymryd mai berf ydy boot up, ond dwi ddim yn siwr, oherwydd rhestr o eiriau sydd gen i i'w chyfieithu, felly doed dim cyd-destun).
Mae rhain wedi rhestru yn http://termau.org/
Timeout = Terfyn amser
Timed out yn anoddach, falle rhaid dweud "Wedi cyrraedd terfyn amser"
neu jyst "Wedi cymryd gormod o amser"
(Gyda llaw mae yna bob math o gynigion gwahanol yn hedfan o gwmpas
fel goroedi, goramser, dros amser ayyb)
Mae boot a boot up yn golygu'r un peth ac yn ferf fan hyn
Boot = Cychwyn
Am fod boot yn fyr am bootstrap, mewn gwirionedd fe ddylai fod yn
Ymgychwyn ond mae Cychwyn yn ddigon addas mewn cyd-destun cyffredinol.
|