> ...illustrating the legend of the True Cross.
>
> Y Wir Groes? ta oes na ryw derm penodol?
Tydy o ddim yn fy nhraddodiad innau, ond mi fuaswn i wedi disgwyl
"y Grog" am "vera cruce". Mae'r Eglwys yng Nghymru (a'r Eglwys
Gatholig am wn i) yn arfer "Gŵyl y Grog" am "Holy Cross" ym mis
Medi, ac mae "Fel y Cafodd Elen y Grog" yn Llyfr Gwyn Rhydderch
yn cyfeirio at "y groc kyssegredic".
(Neu'r "groes go iawn, ai" mewn Cwmraig Biw.)
|