Mae fy ngwraig wedi dod o hyd i'r cyfieithiad canlynol mewn trefn gwasanaeth ar gyfer Sul y Cofio a gyhoeddwyd gan Gangen Bethesda'r Lleng Brydeinig:
Coffawn gerbron Duw a chyflwynwn i'w ofal grasol:
Y rhai a fu farw mewn rhyfel tros eu gwlad. Y rhai a adwaenem, a choffâd y rhai a drysorwn, ynghyd â phawb a fu byw a marw mewn gwasanaeth i ddynolryw.
('mankind' oedd yn y Saeseg; 'i'r ddynoliaeth' fuasai cyfieithiad manwl o 'of humanity', rwy'n cymryd)
Wyn
|