Dw i ddim yn siwr. Mae fy ffrind ar ei ffordd i Iwerddon erbyn hyn - fe hola i wythnos nesa pan fydd wedi dod ati'i hun!
Siān
On 2014 Chwef 7, at 11:38 AM, Ann Corkett wrote:
> 'Rwy'n meddwl, Sian, er fod yr eglurhad braidd yn amwys. Ydy o'n dweud bod "da bach" yn golygu gwartheg stor a bod y term hwnnw'n *cynnwys* lloi yn ogystal a buchod godro ifanc? Cymeraf ei fod.
>
> Diolch am holi,
>
> Ann
> On 06/02/2014 17:18, Sian Roberts wrote:
>> Dyma ddywed fy ffrind sy'n ffarmio yng Nglynarthen:
>>
>> Nawr te, "da bach" byddwn ni'n galw da store, lloi - y rhai bach sydd gyda'r mamau, neu rhai bach da godro sy'n cael ei gwerthu mlan yn ifanc iawn.
>>
>> Ydi hynny'n helpu?
>>
>> Siān
>> On 2014 Chwef 6, at 4:30 PM, Ann Corkett wrote:
>>
>>> Felly mae J Cyril Hughes A GPC yn anghywir (mewn fyrdd gwahanol)?!
>>> Ann
>>> On 06/02/2014 16:00, Mary Jones wrote:
>>>> Ann
>>>> Newydd ailddarllen eich neges. 'Gwartheg stōr' yw 'store cattle' mewn llawer
>>>> rhan o Gymru, hyd y gwela i, sef gwartheg at eu lladd, boed yn fustych
>>>> wedi'u tewhau neu'n wartheg godro nad ydyn nhw'n magu mwyach i gynhyrchu
>>>> llaeth. Weithiau'n 'dda tew' hefyd.
>>>> Mary
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> -----Original Message-----
>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
>>>> Sent: 06 February 2014 15:25
>>>> To: [log in to unmask]
>>>> Subject: Re: store cattle - ac almanacs
>>>>
>>>> Ffrind i mi sy'n ffarmio yng Nglynarthen - gwaelod Sir Aberteifi - yn dweud
>>>> "da bach"
>>>>
>>>>
>>>> Siān
>>>> On 2014 Chwef 6, at 1:13 PM, Ann Corkett wrote:
>>>>
>>>>> Mi wn mai "gwartheg sto^r" yw'r cyfieithiad safonol, yn o^l TermCymru. Dim
>>>> ond ymholiad ieithyddol yw hwn.
>>>>> 'Rwyf wrthi'n darllen hunangofiant J Cyril Hughes, o Geredigion yn bennaf,
>>>> "O Flaenau Tywi i Lannau Taf". Mae o'n son am orfod newid cyfieithiad
>>>> is-deitlwr o ymadrodd Dai Jones ar "Cefn Gwlad": "Cyfieithwyd 'da bach', er
>>>> enghraifft, fel 'small cattle' yn hytrach na 'store cattle' (tud. 178-9)."
>>>> Oes 'na rai ohonoch chi'n gyfarwydd a'r ymadrodd "da bach", ac o ba ardal -
>>>> 'roedd yn hollol newydd i Bruce. Yn ol GPC, "small or young cattle; sheep as
>>>> distinguished from bovine animals" yw "da bach".
>>>>> Ymadrodd arall oedd yn newydd inni: "Ar ganol fy myfyrdod - hel amanacs,
>>>> ar lafar gwlad -" (tud. 109). Unrhyw un yn gyfarwydd a^ "hel almanacs"?
>>>>> Diolch,
>>>>>
>>>>> Ann
>>>> -----
>>>> No virus found in this message.
>>>> Checked by AVG - www.avg.com
>>>> Version: 2014.0.4259 / Virus Database: 3684/7066 - Release Date: 02/05/14
>>>>
>>>>
>>>> -----
>>>> No virus found in this message.
>>>> Checked by AVG - www.avg.com
>>>> Version: 2014.0.4259 / Virus Database: 3684/7066 - Release Date: 02/05/14
>>>>
>>
|