'Rwy'n meddwl, Sian, er fod yr eglurhad braidd yn amwys. Ydy o'n dweud
bod "da bach" yn golygu gwartheg stor a bod y term hwnnw'n *cynnwys*
lloi yn ogystal a buchod godro ifanc? Cymeraf ei fod.
Diolch am holi,
Ann
On 06/02/2014 17:18, Sian Roberts wrote:
> Dyma ddywed fy ffrind sy'n ffarmio yng Nglynarthen:
>
> Nawr te, "da bach" byddwn ni'n galw da store, lloi - y rhai bach sydd gyda'r mamau, neu rhai bach da godro sy'n cael ei gwerthu mlan yn ifanc iawn.
>
> Ydi hynny'n helpu?
>
> Siān
> On 2014 Chwef 6, at 4:30 PM, Ann Corkett wrote:
>
>> Felly mae J Cyril Hughes A GPC yn anghywir (mewn fyrdd gwahanol)?!
>> Ann
>> On 06/02/2014 16:00, Mary Jones wrote:
>>> Ann
>>> Newydd ailddarllen eich neges. 'Gwartheg stōr' yw 'store cattle' mewn llawer
>>> rhan o Gymru, hyd y gwela i, sef gwartheg at eu lladd, boed yn fustych
>>> wedi'u tewhau neu'n wartheg godro nad ydyn nhw'n magu mwyach i gynhyrchu
>>> llaeth. Weithiau'n 'dda tew' hefyd.
>>> Mary
>>>
>>>
>>>
>>>
>>>
>>>
>>> -----Original Message-----
>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
>>> Sent: 06 February 2014 15:25
>>> To: [log in to unmask]
>>> Subject: Re: store cattle - ac almanacs
>>>
>>> Ffrind i mi sy'n ffarmio yng Nglynarthen - gwaelod Sir Aberteifi - yn dweud
>>> "da bach"
>>>
>>>
>>> Siān
>>> On 2014 Chwef 6, at 1:13 PM, Ann Corkett wrote:
>>>
>>>> Mi wn mai "gwartheg sto^r" yw'r cyfieithiad safonol, yn o^l TermCymru. Dim
>>> ond ymholiad ieithyddol yw hwn.
>>>> 'Rwyf wrthi'n darllen hunangofiant J Cyril Hughes, o Geredigion yn bennaf,
>>> "O Flaenau Tywi i Lannau Taf". Mae o'n son am orfod newid cyfieithiad
>>> is-deitlwr o ymadrodd Dai Jones ar "Cefn Gwlad": "Cyfieithwyd 'da bach', er
>>> enghraifft, fel 'small cattle' yn hytrach na 'store cattle' (tud. 178-9)."
>>> Oes 'na rai ohonoch chi'n gyfarwydd a'r ymadrodd "da bach", ac o ba ardal -
>>> 'roedd yn hollol newydd i Bruce. Yn ol GPC, "small or young cattle; sheep as
>>> distinguished from bovine animals" yw "da bach".
>>>> Ymadrodd arall oedd yn newydd inni: "Ar ganol fy myfyrdod - hel amanacs,
>>> ar lafar gwlad -" (tud. 109). Unrhyw un yn gyfarwydd a^ "hel almanacs"?
>>>> Diolch,
>>>>
>>>> Ann
>>> -----
>>> No virus found in this message.
>>> Checked by AVG - www.avg.com
>>> Version: 2014.0.4259 / Virus Database: 3684/7066 - Release Date: 02/05/14
>>>
>>>
>>> -----
>>> No virus found in this message.
>>> Checked by AVG - www.avg.com
>>> Version: 2014.0.4259 / Virus Database: 3684/7066 - Release Date: 02/05/14
>>>
>
|