On 15/01/2014 13:22, Huw Tegid wrote:
> Fydd hyn ddim help, o bosib, ond dwi'n meddwl bod Pobol y Cwm wedi defnyddio 'cyfeiriannu' yn ddiweddar iawn, gyda'r cymeriad o'r enw Colin yn gorfod egluro wrth bawb ar yr un gwynt mai 'orienteering' oedd ganddo dan sylw.
>
> Mewn gwirionedd, roedd yr hyn roedd o'n dymuno ei wneud yn nes at navigation yn fy marn i - hynny ydi, nid y gamp o chwilio am sgwariau bach coch a gwyn yn yr awyr agored, dim ond mynd am dro a dilyn llwybrau ar fapiau yn gyffredinol.
>
> Orienteering ydi cyfeiriannu i mi, ac mae angen gwahaniaethu rhwng y gamp benodol honno a'r hyn sydd gennych chi dan sylw fan hyn.
>
> Tybed pa mor gyfarwydd fyddai pobl â 'tirlywio', a ddefnyddiwyd fan hyn [yr unig le y mae'r gair yn ymddangos ar y we, hyd y gwelaf]
>
> http://www.colegsirgar.ac.uk/cy/courses-computing-public-services-and-foundation/public-services/item/btec-level-2-first-in-uniformed-public-services
>
> ...Tirlywio gyda Map a Chwmpawd...
>
> http://www.colegsirgar.ac.uk/en/courses-computing-public-services-and-foundation/public-services/item/btec-level-2-first-in-uniformed-public-services
>
> ... Land Navigation by Map and Compass ...
>
>
> Cofion gorau,
>
> Huw
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Einir Hughes
> Sent: 15 January 2014 11:34
> To: [log in to unmask]
> Subject: Navigation and Expedition Workbook
>
> Dwi wedi chwilio'r archifau, a'r hyn sy'n cael ei gynnig ar gyfer 'Navigation' ydi 'Cyfeiriannu'.
> Y broblem ydi bod yna gyfeiriad at 'orienteering' yn y ddogfen hefyd, ac fel dwi'n deall, 'cyfeiriannu' ydi'r term a ddefnyddir am hyn. Fyddai Cyfeiriadu yn iawn, jyst i wahaniaethu?
>
> Mae 'Navigation' yn cyfeirio at ddarllen mapiau, defnyddio cwmpawd a nodweddion naturiol i ffendio'ch ffordd a chyfrifo pellter ac amser taith.
>
> Rwan, o dan 'Expedition' mae'n sôn am sut i gynllunio a threfnu taith, gan gynnwys teithiau hir yn y mynyddoedd lle mae angen gwersylla dros nos. Fyddai 'Trefnu Teithiau' yn ddigon dealladwy? Ydi 'taith' yn air digon cryf yn fan'ma? Mae'n fwy na rhyw daith gerdded fach, ond dwi ddim rhy hoff o 'Alldeithio', 'ymdeithio' na 'chyrchu' i fod yn onest.
>
> Gweithlyfr i fyfyrwyr 14-19 oed ydi hwn.
>
> Diolch o galon am unrhyw gymorth, ac am ddarllen y llith yma i gyd!
>
> Einir
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2014.0.4259 / Virus Database: 3658/7003 - Release Date: 01/14/14
dwi'n noffi tirlywio am 'navigation'. O'n i' meddwl bod
'alldaith/alldeithiau wedi hen ennill ei blwy am expedition - dyna'r
gair o'n i'n ei ddefnyddio ym myd addysg/hanes, ac rwy'n weddol sicr mai
dyna'r gair sy'n cael ei ddefnyddio yng nghyd-destun alldeithiau Gwobrau
Dug Caeredin hefyd.
|