Dwi wedi chwilio'r archifau, a'r hyn sy'n cael ei gynnig ar gyfer 'Navigation' ydi 'Cyfeiriannu'.
Y broblem ydi bod yna gyfeiriad at 'orienteering' yn y ddogfen hefyd, ac fel dwi'n deall, 'cyfeiriannu' ydi'r term a ddefnyddir am hyn. Fyddai Cyfeiriadu yn iawn, jyst i wahaniaethu?
Mae 'Navigation' yn cyfeirio at ddarllen mapiau, defnyddio cwmpawd a nodweddion naturiol i ffendio'ch ffordd a chyfrifo pellter ac amser taith.
Rwan, o dan 'Expedition' mae'n sôn am sut i gynllunio a threfnu taith, gan gynnwys teithiau hir yn y mynyddoedd lle mae angen gwersylla dros nos. Fyddai 'Trefnu Teithiau' yn ddigon dealladwy? Ydi 'taith' yn air digon cryf yn fan'ma? Mae'n fwy na rhyw daith gerdded fach, ond dwi ddim rhy hoff o 'Alldeithio', 'ymdeithio' na 'chyrchu' i fod yn onest.
Gweithlyfr i fyfyrwyr 14-19 oed ydi hwn.
Diolch o galon am unrhyw gymorth, ac am ddarllen y llith yma i gyd!
Einir
|