Mae'n bosib nad wyf i'n siarad â digon o Gardis go iawn, ond ni chlywais neb erioed gyfeirio at y lle â'r naill enw na'r llall yn y Gymraeg. Rwy'n amau efallai mai cyfieithu'r enw Saesneg 'Dovey Furnace' i'r Gymraeg sy'n digwydd yma. Hyd y gwelaf i, "[y] Ffwrnais" yw'r enw dilys yn y Gymraeg - neu 'y Ffwrnes' ar lafar.
Mae Archif Melville Richards yn cofnodi 'Furnace' yng Nghyfrifiad 1851 - dim 'Furnace Dovey' na 'Dovey Furnace' - ac fe fyddai'n rhesymol tybio bod honno'n ffurf wedi'i had-Seisnigeiddio o'r hyn a ddefnyddid gan y trigolion Cymraeg ar y pryd.
Mae GPC yn cofnodi'r ffurf lafar 'y Ffwrnes' t.1330 'Rhan xxI' 1967.
Dim ond 'y Ffwrnais' a geir yn 'Crwydro Ceredigion' T. I. Ellis (yr ail argraffiad sydd gennyf i, 1953) t. 24, "ac mae'n werth oedi wrth y bont ym mhentre'r Ffwrnais", ac ar y platiau gyferbyn â th. 28, Llun 12 'Afon Einion ger y Ffwrnais'
Ac yn 'Bro Ddyfi a Machynlleth' gan Oswald Rowlands (Aberystwyth, dim dyddiad, ond gan ei fod yn dweud mai "Machynlleth fydd cartre'r Eisteddfod Genedlaethol yn 1937" - mae'n debyg mai yn 1935 neu 36 - y'i cyhoeddwyd')
t. 26 "Y [cei] pwysicaf oedd Cei Dyfi, ger Glandyfi, porthladd plwm gogledd Ceredigion, a doddid yn y Ffwrnais, ger yr Eglwys Fach."
Dyna ryfedd nad oes ond un enghraifft a gafwyd o enw'r pentref yn y papur bro lleol ondifa? ["According to Google, the local ‘papur bro’, Papur Pawb, uses the form Ffwrnais Dyfi (in one article) not Ffwrnais Ddyfi"]
Ond cewch hyd i ddigon o enghreifftiau o 'Ffwrnais' yn 'Papur Pawb' ac ar y wefan ["Croeso i wefan Papur Pawb: Papur bro ardal Ceulanamaesmawr, Ceredigion yn cynnwys Tal-y-bont, Bontgoch, Taliesin, Tre'r Ddol, Ffwrnais, Eglwysfach a Glandyfi" http://www.papurpawb.com/ ]
Efallai y bydd Gorwel yn gallu cadarnhau hyn i ni, ond o bori drwy wefan y Cyngor 'Ffwrnais' yn unig a geir fel arfer ar y tudalennau Cymraeg.
Dyw i ddim yn meddwl y byddai trigolion Pen-y-bont ar Ogwr yn croesawu newid enw swyddogol Saesneg y dref i 'Bridgend on Ogmore' i adlewyrchu'r Gymraeg, a dyw i ddim yn gweld pam y dylid newid enwau traddodiadol Cymraeg fel eu bod nhw'n cyd-fynd â'r enwau Saesneg!
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of David Bullock
Sent: 03 Ionawr 2014 12:33
To: [log in to unmask]
Subject: Ffwrnais Dyfi
Beth amser yn ôl, sylwodd Cadw fod dwy ffurf wedi'u defnyddio ar eu gwefan nhw (gan gyfieithwyr gwahanol yn ôl pob tebyg) sef Ffwrnais Dyfi a Ffwrnais Ddyfi.
I gael arweiniad o ran pa ffurf i'w ffafrio, dyma Cadw'n gofyn cyngor Comisiynydd y Gymraeg. Ar sail y cyngor hwnnw, Ffwrnais Dyfi fydd yn cael ei harfer gan Cadw.
Dwi wedi cael caniatâd i rannu'r cyngor a'r argymhelliad gyda chi:
There do not appear to be any early forms for a Welsh name for Dyfi Furnace. The Archif Melville Richards Place-Name Database has only one entry for the place-name Furnace at Ysgubor-y-coed, from the 1851 Census. The standard work on the place-names of Ceredigion (Iwan Wmffre: The Place-Names of Ceredigion (2004), p 1178) lists examples of Dovey Furnace, but no Welsh equivalent.
The earliest Welsh equivalent I have been able to find is Ffwrnais Dyfi in a 1973 article by D Morgan Rees of the National Museum of Wales; the next is Ffwrnais Ddyfi in some notes for a 1978 exhibition by George C Boon, also of the National Museum.
Alternation between pairs of this sort is not uncommon. In earlier Welsh proper nouns are frequently mutated after a feminine noun under certain circumstances. This is not the normal construction in the modern language, although many survivals occur. A good example is Eglwys Loegr ‘The Church of England’, not *Eglwys Lloegr. Vacillation, sometimes the subject of controversy, occurs: Gŵyl Ddewi or Gŵyl Dewi ‘St David’s Day’? In 1906 there was a celebrated row about the naming of streets in Bangor: Ffordd Deiniol or Ffordd Ddeiniol? In place-names, different areas treat similar combinations of elements in different ways, and this should of course be respected where there are traditional forms.
In the case of Ffwrnais D(d)yfi there does not appear to be a traditional form, and if that is the case, neither form is incorrect. According to Google, the local ‘papur bro’, Papur Pawb, uses the form Ffwrnais Dyfi (in one article) not Ffwrnais Ddyfi, as does Ceredigion County Council (four times). Although Cadw itself uses Ffwrnais Ddyfi on nine web pages, it uses Ffwrnais Dyfi on two.
The form Ffwrnais Dyfi is more common, according to Google, and follows the normal construction in Modern Welsh. In addition, there is a slight tendency to avoid the sequence -s dd-, e.g. nos da, not *nos dda. Because of these factors, I would recommend standardizing on the form Ffwrnais Dyfi.
|