Cyfieithais ddogfen i Fwrdd yr Iaith, yn union cyn i hwnnw ddod i ben.
'Roedd tudalennau maith o gyfeiriadau gwefannau, a chodais gwestiwn
ynghylch cael fy nhalu am f'amser wrth eu gwirio i gyd (Cymraeg i Saesneg
oedd hyn, felly dim cymaint o broblem, gan fod y gwefannau'n sicr o
fodoli!). Yn ffodus imi, penderfynodd yr awdur y byddai'n well ganddo fo
fod yn gyfrifol am y gwaith ei hun. Ond mae'r pwynt yn aros - oni ddylen
ni fod yn codi am y gwaith o drosi gwefannau yn ol amser yn hytrach na
geiriau.
Os nad fyddwch chi'n codi'r pwynt o gwbl, ni fydd y rhan fwyaf o awduron
di-Gymraeg hyd yn oed yn sylweddoli y cafodd y gwaith ei wneud.
Ann
Original email:
-----------------
From: Sian Roberts [log in to unmask]
Date: Mon, 25 Nov 2013 13:49:05 +0000
To: [log in to unmask]
Subject: Re: cyfeiriadau gwefannau
Mae hyn yn wir.
e.e. Weithiau mae angen mynd i'r wefan Saesneg, canfod a oes gwefan
Gymraeg, canfod a oes cyfeiriad Cymraeg sy'n wahanol i'r cyfeiriad a gewch
trwy glicio ar y ddolen o'r wefan Saesneg etc. e.e. Weithiau cewch
www.engagementwales.com/Conference (dyweder) yn Saesneg ac, os cliciwch ar
y botwm "Cymraeg", fe ewch i
www.engagementwales.com/Conference/2dikfnoghmn/diablo.lang=Cym ond, efallai
bod modd mynd i'r un dudalen trwy deipio www.ymgysylltucymru.com/Cynhadledd
- sy'n edrych gymaint yn well o'i chynnwys mewn dogfen Gymraeg
Fel mae Carolyn yn dweud, mae hyn yn cymryd tipyn o amser - ond os na wnawn
ni e, allwn ni ddim bod yn siwr y bydd y cwsmer yn trafferthu bob amser.
Siân
On 2013 Tach 25, at 1:35 PM, Carolyn wrote:
> Mae hyn i gyd yn codi cwestiwn ynghylch cyfrifoldeb cyfieithydd yn y maes
yma – mae dogfennau’r Llywodraeth er enghraifft yn llawn cyfeiriadau at
wefannau a dyfyniadau ohonynt – dw i’n amcangyfrif yn ddiweddar imi dreulio
3 awr ar un job yn golygu cyfeiriadau gwefannau a’r testun sy’n ymddangos
ac yn chwilio am ddyfyniadau. Dw i’n cytuno â Geraint bod angen gwneud hyn
– neu dydy pobl ddim yn mynd i ddefnyddio dogfennau Cymraeg sydd ar gael ar
y we. Os oes un neu ddau gyfeiriad mewn dogfen, dydy hynny ddim yn
drafferth, ond pan fydd na ddegau mae’n gallu golygu oriau o waith di-dâl.
> Carolyn
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Cyfieithydd
Achlysurol
> Sent: 25 Tachwedd 2013 13:29
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: cyfeiriadau gwefannau
>
> Beth am fynd at wefan talfyrru URLau megis bitly neu tinyurl, lle mae
modd creu cyfeiriadau pwrpasol? Gellid creu'r cyfeiriad
(dyweder)bit.ly/cynhadleddYmgysylltu a defnyddio hwnnw yn y ddogfen Gymraeg.
>
> On Nov 25, 2013 10:10 AM, "Geraint Lovgreen"
<[log in to unmask]> wrote:
> Na, dydio ddim yn golygu paratoi 2 fersiwn - bydd y fersiwn ar-lein a'r
fersiwn papur yn dangos cyfeiriad y wefan - ond yn y fersiwn ar-lein bydd
yr hyperddolen tu ôl i'r hyn sy'n ymddangos ar y sgrin (ac felly mewn
print) yn eich arwain i'r wefan Gymraeg.
> ----- Original Message -----
> From: Carolyn
> To: [log in to unmask]
> Sent: Monday, November 25, 2013 9:52 AM
> Subject: Re: cyfeiriadau gwefannau
>
> Ond mae hynny’n golygu paratoi dwy fersiwn wahanol tydi? Beth am wneud
rhywbeth fel hyn yn y ddwy fersiwn..... ‘ar wefan Ymgysylltu Cymru (y
ddolen i’r wefan mewn cromfachau’n dilyn – i’r wefan Gymraeg os yw ar
gael/i’r wefan Saesneg os nad yw).
> Sori os ydw i wedi camddeall y pwynt.
> Carolyn
>
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
> Sent: 25 Tachwedd 2013 09:04
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: cyfeiriadau gwefannau
>
> Na, beth mae Elin yn ddweud ydi cadw'r cyfeiriad fel y mae yn y fersiwn
papur gweledol, ond golygu'r hyperddolen fel bod y fersiwn ar-lein, er yn
dangos y cyfeiriad Saesneg, yn mynd i'r fersiwn Cymraeg.
>
> Fyddai dim pwynt rhoi www.engagementwales.com/cynhadledd yn unlle gan na
fyddai'n arwain at unrhyw beth!
>
> Geraint
> ----- Original Message -----
> From: Sian Roberts
> To: [log in to unmask]
> Sent: Sunday, November 24, 2013 2:37 PM
> Subject: Re: cyfeiriadau gwefannau
>
> Ie, dyna ni.
>
> Dyweder bod y cyfeiriad Saesneg yn dweud
> www.engagementwales.com/conference
> ond bod y gwir gyfeiriad Cymraeg yn dweud
> www.engagementwales.com/news/conference/djodnwoemng/?diablo.lang=cym,
> byddai modd rhoi www.engagementwales.com/cynhadledd i ddangos yn fersiwn
y we ond byddai'n rhaid rhoi'r cyfeiriad Cymraeg llawn yn y copi papur. Ie?
>
> Diolch
>
> Siân
>
>
>
>
>
> On 2013 Tach 24, at 1:49 PM, Elin Davies wrote:
>
>
> Problem Sian oedd bod y testun yn mynd i fod yn electronig ac wedi ei
argraffu ar bapur ia? Os felly, un ateb posibl ydi cadw'r cyfeiriad Saesneg
fel testun gweledol, ond rhoi cyfeiriad y dudalen Gymaraeg fel hyperlink
(h.y. Dde glicio ar y ddolen yn word > golygu hyperlink a rhoi'r cyfeiriad
yn y bar cyfeirio, ond cadw'r testun i'w arddangos run fath). Fel hyn
byddai yna gyfeiriad hawdd i pwy bynnag sy'n mynd yno o gopi papur, gan
gymryd ei bod yn hawdd clicio ymlaen i'r dudalen Gymraeg, a byddai
darllenwyr y fersiwn electronig yn gallu clicio i agor y dudalen yn syth yn
Gymraeg. Dwi'n rhy ddiog i deipio link hir a chymhleth i wefan (yn enwedig
os dwi ar ffôn fel rwan, neu dabled) felly byddwn i naill ai'n mynd i'r
ddudalen Saesneg a chlicio ymlaen i'r Gymraeg neu jyst ddim yn trafferthu
mae gen i ofn. Rhaid ystyried ymarferoldeb i'r darllenwr hefyd siawns?!
>
> Elin
>
> On Sunday, 24 November 2013, Geraint Lovgreen wrote:
> Dwi ddim yn meddwl y dylai testun Cymraeg anfon pobl at wefan Saesneg os
oes gwefan Gymraeg ar gael.
>
> Geraint
> ----- Original Message -----
> From: anna gruffydd
> To: [log in to unmask]
> Sent: Sunday, November 24, 2013 12:52 PM
> Subject: Re: cyfeiriadau gwefannau
>
> Ella mod i'n siarad drwy fy het rwan gan na di'm yn dallt dim am na
gwefanna na chyfrifiaduron na'r we na dim - gan dy fod yn so^n, Sia^n bod
cyfeiriada gwefan Cymraeg yn hir - oni fasa'n haws i bobol fynd i'r un
Saesneg a chlicio yno er mwyn newid iaith? Mae'n siwr mod i edi deud
rhywbeth gwirion.
>
> Anna
>
> Ye who opt for cut'n'paste
> Tread with care and not in haste!
>
>
> 2013/11/24 Sian Roberts <[log in to unmask]>
> Sori - pledio blinder. Hollol glir ar ôl noson dda o gwsg!
> Cofiwch - weithiau mae cyfeiriadau gwefannau Cymraeg yn od o hir - cewch
e.e. www.engagementwales.com yn Saesneg a rhyw ribidires ar y diwedd ar
gyfer y wefan Gymraeg.
>
> Diolch,
>
> Siân
>
>
> On 2013 Tach 24, at 11:43 AM, Geraint Lovgreen wrote:
>
> > Helo Siân,
> >
> > "Efallai na fyddai hyn yn ddoeth"???
> >
> > Sori, ond yn amlwg byddai'n hollol hurt cyfieithu'r cyfeiriad, a rhoi
cyfeiriad nad yw'n bod! Beth fydda i'n wneud bob amser ydi mynd i'r wefan
Gymraeg a rhoi cyfeiriad hwnnw yn y cyfieithiad - sef
www.engagementwales.org.uk/?diablo.lang=cym yn dy achos di.
> >
> > Dwi ddim yn gweld bod problem o gwbwl gyda hyn, fy hun!
> >
> > Geraint
> >
> > ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts"
<[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Saturday, November 23, 2013 7:55 PM
> > Subject: cyfeiriadau gwefannau
> >
> >
> > Helo
> > Wedi drysu, braidd.
> >
> > Mae arna i eisiau rhoi cyfeiriad gwefan mewn dogfen fydd yn ymddangos
ar y we ac ar bapur.
> >
> > Dyweder mai enw'r mudiad yw Engagement Wales yn Saesneg ac Ymgysylltiad
Cymru yn Gymraeg.
> > Dyweder bod www.engagementwales.org.uk yn arwain at wefan Saesneg a
bod clicio ar y botwm Cymraeg yn arwain
atwww.engagementwales.org.uk/?diablo.lang=cym
> >
> > Does dim URL www.ymgysylltiadcymru.org.uk ond, pe bawn i'n mynnu, fe
allwn i olygu'r ddolen ar gyfer y fersiwn ar-lein i ddweud hynny a byddai
clicio ar y ddolen yn arwain at y wefan Gymraeg. Iawn?
> > Fodd bynnag, efallai na fyddai hyn yn ddoeth gan nad yw'r cyfeiriad yn
bod go iawn a byddai unrhyw un fyddai'n teipiowww.ymgysylltiadcymru.org.uk
i'r bar chwilio yn mynd i'r gors.
> >
> > Felly, ai'r peth gorau yw cynnwys y cyfeiriad cyfan
www.engagementwales.org.uk/?diablo.lang=cym yn y Gymraeg yn y fersiwn
ar-lein a'r fersiwn bapur?
> >
> > Ddrwg gen i os ydi hyn yn ddryslyd. Gen i deimlad mod i'n dod ar draws
hyn yn aml heb ei weld yn broblem o'r blaen!
> >
> >
> > Diolch
> >
> > Siân
> >
> >
> > -----
> > No virus found in this message.
> > Checked by AVG - www.avg.com
> > Version: 2012.0.2247 / Virus Database: 3629/6362 - Release Date:
11/24/13
>
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2012.0.2247 / Virus Database: 3629/6362 - Release Date: 11/24/13
>
>
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2012.0.2247 / Virus Database: 3629/6364 - Release Date: 11/24/13
>
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2012.0.2247 / Virus Database: 3629/6364 - Release Date: 11/24/13
>
--------------------------------------------------------------------
mail2web LIVE – Free email based on Microsoft® Exchange technology -
http://link.mail2web.com/LIVE
|