Mae stori ar y newyddion ynghych "concussion" mewn rygbi.
Mae'r BBC yn defnyddio "cyfergyd" - a dyna sydd i'w weld mewn geiriaduron.
"Ar hyn o bryd nid oes gan Undeb Rygbi Cymru raglen o hyfforddiant gorfodol ar gyfer delio gyda chyfergydion."
http://www.bbc.co.uk/newyddion/24562269?utm_source=twitterfeed&utm_medium=twitter
Ond, yn ôl a welaf i, mae'r gair "concussion" yn tarddu o'r Lladin am "ysgytwad ffyrnig" ac wedyn wedi mynd i olygu effeithiau'r ysgytwad ar yr ymennydd.
Wela i ddim bod "cyfergyd" yn addas ar gyfer y cyflwr y mae rhywun yn dioddef ohono ar ôl cael slap i'w ben.
Unrhyw awgrymiadau?
Diolch
Siân
|