Pa eiriaduron (heblaw GyrA)? Alla i ddim dod o hyd i "concussion" mewn
rhestr o dermau meddygol heblaw'r hen "Termau Meddygol", sy'n rhoi
"ergydwst", a all, o bosibl, fod ychydig yn nes at ystyr canlyniad cyfergyd.
Ond i ba raddau y defnyddir "cyfergyd" neu "egydwst"? Alla i ddim dod o
hyd i lawer o help ar Google, ond byddai'n anodd mynd yn erbyn y lli os
bydd pawb arall yn dilyn GyrA. Awgrymodd Bruce y byddai "cyfergydwst"
efallai'n datrys y broblem.
O ran defnydd Undeb Rygbi Cymru, oni fyddai "achosion o gyfergyd" wedi
bod yn well na "cyfergydion"?
Ann
On 17/10/2013 10:49, Sian Roberts wrote:
> Mae stori ar y newyddion ynghych "concussion" mewn rygbi.
>
> Mae'r BBC yn defnyddio "cyfergyd" - a dyna sydd i'w weld mewn geiriaduron.
>
> "Ar hyn o bryd nid oes gan Undeb Rygbi Cymru raglen o hyfforddiant gorfodol ar gyfer delio gyda chyfergydion."
> http://www.bbc.co.uk/newyddion/24562269?utm_source=twitterfeed&utm_medium=twitter
>
>
> Ond, yn ôl a welaf i, mae'r gair "concussion" yn tarddu o'r Lladin am "ysgytwad ffyrnig" ac wedyn wedi mynd i olygu effeithiau'r ysgytwad ar yr ymennydd.
>
> Wela i ddim bod "cyfergyd" yn addas ar gyfer y cyflwr y mae rhywun yn dioddef ohono ar ôl cael slap i'w ben.
>
> Unrhyw awgrymiadau?
>
> Diolch
>
> Siân
>
>
|