Rydw innau'n hoffi 'llwybr llygod' hefyd. Beth am i mi gynnig 'llwybr sleifio' hefyd tra rydan ni'n pendroni? Mae rhywun yn aml yn ymwybodol na ddylen nhw ddefnyddio'r lonydd hyn, ond yn 'sleifio' ar hyd y ffyrdd hynny gan wybod y byddan nhw'n dawelach na'r prif ffyrdd, am na ŵyr ymwelwyr/prif lif y traffig amdanyn nhw.
Cofion gorau,
Huw
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned Graham-Cameron
Sent: 24 October 2013 14:35
To: [log in to unmask]
Subject: Re: rat run
Ia, dyna yw'r peryg - llwybr slei amdani dwi'n meddwl. Ddim isio i bobl feddwl am 'bypass'.
Er, dwi'n hoffi "llwybr llygod" yn fawr iawn - mae'n swnio'n dda!
Diolch yn fawr i bawb am eich cynigion.
Sioned
On 24 Oct 2013, at 14:33, Sian Roberts wrote:
> Peryg drysu rhwng "llwybr osgoi" a "lôn/ffordd osgoi" sy'n wahanol.
> Llwybr slei yn cyfleu naws "rat run", am wn i.
>
> Siân
>
>
> On 2013 Hyd 24, at 2:21 PM, Geraint Lovgreen wrote:
>
>> Llwybr osgoi neu lwybr slei ydi'r gorau gen i.
>>
>> Geraint
>>
>> ----- Original Message ----- From: "Ann Corket" <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Thursday, October 24, 2013 2:06 PM
>> Subject: Re: rat run
>>
>>
>>> neu jyst "llwybr osgoi"?
>>> Ann
>>> On 24/10/2013 11:47, Huw Tegid wrote:
>>>> Mae shun-pike / shunpiking yn enw ar arfer tebyg:
>>>>
>>>> http://en.wikipedia.org/wiki/Shunpiking
>>>>
>>>> a 'lôn osgói' ydi'r cynnig yng Ngeiriadur yr Academi am hwnnw. "Bypass" sy'n dod i feddwl rhywun wrth weld yr ymadrodd hwnnw, ond mae ystyr ychydig yn fwy negyddol i'r 'rat run' yng ngolwg rhai pobl, gan nad ydyn nhw'n lonydd osgói swyddogol.
>>>>
>>>> Beth am llwybr slei, efallai?
>>>>
>>>> Cofion gorau,
>>>> Huw
>>>>
>>>> -----Original Message-----
>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned Graham-Cameron
>>>> Sent: 24 October 2013 11:23
>>>> To: [log in to unmask]
>>>> Subject: rat run
>>>>
>>>> Bore da
>>>>
>>>> Trafodwyd hyn yn 2003, a'r ddau gynnig oedd 'Llwybr Tarw" a "Llwybr Dianc". Dydw i ddim yn siwr os ydyn' nhw'n cyfleu yn union yr un peth?
>>>>
>>>> Oes gan unrhyw un gynnig arall? Cais cynllunio ydi'r cyd-destun, fel yn y cwestiwn gwreiddiol.
>>>>
>>>> Diolch
>>>> Sioned
>>>>
>>>> -----
>>>> No virus found in this message.
>>>> Checked by AVG - www.avg.com
>>>> Version: 2014.0.4158 / Virus Database: 3614/6776 - Release Date: 10/23/13
>>>>
>>>
>>>
>>> -----
>>> No virus found in this message.
>>> Checked by AVG - www.avg.com
>>> Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3222/6276 - Release Date: 10/23/13
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4158 / Virus Database: 3614/6776 - Release Date: 10/23/13
|