Nid cais yn ymwneud ag unrhyw waith yw hyn, dim ond mwydro.
Mi wn i mai "gorfodi" yw "enforcement" yn TermCymru ond mae'n biti ei
fod yn swnio mor od o'i ddefnyddio'n awtomatig.
Gwelais fan yn y ddinas y diwrnod o'r blaen, gyda'r geiriau hyn arni:
Immigration Enforcement - Gorfodi Mewnfudo ('roeddwn i'n meddwl mai
gorfodi allfudo oedd y syniad ddyddiau hyn).
Oni fyddai "rheoli" neu "plismona" wedi bod yn fwy dealladwy?
Ann
|