O gwych! Ar fin mynd i'm gwely ond cafodd cywreinrwydd y gore arna i! Gyda llaw maddeuwch i mi os ydw i'n camddefnyddio'r cylch ond hoffwn ddymuno'n dda i chi gyfeillion gan fy mod i bellach wedi ymddeol o'm swydd gydag awdurdod Dinas a Sir Abertawe ond fel y gwelwch, dw i'n dal i ddilyn y cylch a falle y gwelwch ambell i gyfraniad pan fydda i wedi deall sut i dderbyn y negeseuon mewn ffordd hwylus fel yr oeddwn i ar fy nghyfrifiadur yn y gwaith! Dw i'n gyrru 'ngwr yn benwan gan nad ydw i'n deall yr ochr dechnegol ddigon!!
Hwyl am y tro.
|