Ydi "gadael" ac "ymuno" yn gweithio am opt out yn y cyd-destun? Rwyf wedi defnyddio "dewis ymuno" yng nghyd-destun cynllun pensiwn yn y gorffennol, ond falla nad yw'n ddigon manwl yn y darn sydd gennych chi.
Sioned
On 1 Jul 2013, at 00:23, Ann Corket wrote:
> Tybed a oes gan Sion unrhyw wybodaeth ynghylch yr uchod hefyd? 'Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at TermCymru, gan nad yw hwnnw'n hollol clir.
>
> Nid wyf yn hoff iawn o "contractio allan", ond nid yw "eithrio" yn gweithio bob tro (ac mae son unwaith am "opting in" hefyd). Biti nad oes term megis "ymeithrio".
>
> Llawer o ddiolch,
>
> Ann
|