Bore da, chwychwi sy â gwallt ac yn arfer y fraint o'i liwio!
'colouring resistant hair' ydi'r cymal, yn ymwneud â Safonau Trin Gwallt
a Gwaith Barbwr.
Dwi isio osgoi dweud rhywbeth hir-wyntog megis 'gwallt sy'n anodd ei
drin' ayyb...
Mi rydw i wedi defnyddio 'gwrthiannol' hyd yn hyn ond tybed a fyddai
bathu term fel 'gwrthodol' yn bosib?
Dwi am ei gadw'n gryno, gan fod y rhain yn restrau cryno.
Diolch,
Dafydd
|