Deddf Cyfieithu’r Beibl a’r Llyfr Gweddi i’r Gymraeg 1563
Seminar: 12 Mehefin 2013
2.00pm – 4.15pm
Fel rhan o ddathliadau 450 mlynedd Deddf Cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg mae Eglwys Dewi Sant, Caerdydd, yn trefnu seminar brynhawn dydd Mercher 12fed Mehefin yn Neuadd yr Eglwys. Bydd y cyfarfod yn agored i’r cyhoedd yn gyffredinol ac nid yw’n rhagdybied unrhyw wybodaeth flaenorol am y maes.
Cyflwynir y seminar gan Gwynn Matthews, a dyma fydd yn cael ei drafod.
1. Statws y Fwlgat (y Beibl Lladin) yn y Canol Oesoedd a’r cyfieithiadau cynnar i’r Gymraeg.
2. Pwyslais y Dadeni Dysg ar ailafael yn ieithoedd gwreiddiol y Beibl.
3. Galwad y Diwygwyr Protestannaidd am gael y Beibl yn ‘iaith y bobl’.
4. Hanes y Beibl Saesneg ac esblygiad Addoliad Cyhoeddus yn Saesneg.
5. Y galw am Feibl a Llyfr Gweddi Cymraeg.
6. Deddf 1563.
Bydd y seminar yn cychwyn am 2.00 o’r gloch. Bydd seibiant am baned tua 2.45. Daw’r seminar i ben am 4.15.
|