Mae 'na jôc yma yn rhywle i neud efo p-p
Geraint
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, June 13, 2013 2:13 PM
Subject: Re: symptomau, symtomau
Ond beth yw'r symtomau os ydych chi'n cael gormod o Vimpto?
Siân
On 2013 Meh 13, at 1:44 PM, Geraint Lovgreen wrote:
> Os ca'i godi sgwarnog -
>
> Oes angen y "p" yn "symptomau"? "Symtomau" dwi'n ei glywed. Felly mae'n
> "demtasiwn" awgrymu nad oes.
>
> Geraint
>
> ----- Original Message ----- From: "Dafydd Timothy"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, June 13, 2013 12:59 PM
> Subject: Re: presenting with
>
>
>> Arddangos symptomau?
>>
>>
>>
>> On 13/06/2013 12:58, Jones,Sylvia Prys wrote:
>>> Dw i'n meddwl bod 'presenting with' yn golygu'r symptomau a nodir gan y
>>> meddyg yn ei archwiliad neu'r symptomau mae'r claf yn cwyno amdanynt
>>> e.e. poen. Mae'r rhain yn gallu bod yn arwyddion o nifer o gyflyrau neu
>>> glefydau gwahanol.
>>>
>>>
>>> Jones,Sylvia Prys wrote:
>>>> Rydw i wedi defnyddio pethau tebyg, fel 'yn dweud bod ganddynt' 'yn
>>>> cwyno am/â'.
>>>>
>>>> Sian Roberts wrote:
>>>>> Dim amser i chwilio i weld beth yn union mae'n feddwl ond a fyddai
>>>>> rhywbeth mwy naturiol nag "ymgyflwyno" yn well?
>>>>>
>>>>> Mae nifer o enghreifftiau yma:
>>>>> http://www.corpws.org/corpws-cyfochrog-cofnod-cynulliad-cenedlaethol-cymru-2007-2010-1999-2003/#en_presenting+with
>>>>>
>>>>> Mae'n gallu amrywio o "sydd â phoen", "sy'n cwyno â phoen", "sy'n dod
>>>>> i'n gweld â phoen", "sy'n mynd at y meddyg â phoen" etc
>>>>>
>>>>> Siân
>>>>>
>>>>>
>>>>> On 2013 Meh 13, at 12:16 PM, Claire Richards wrote:
>>>>>
>>>>>> “Patients presenting with...” ac wedyn symptomau neu gyflyrau e.e.
>>>>>> “with chest pain”, “with stroke”, “with bladder dysfunction”, “with a
>>>>>> new problem”.
>>>>>>
>>>>>> Mae’r dogfennau sydd gen i yn ymwneud â phobl sydd mewn ysbyty.
>>>>>>
>>>>>> Y rhai ohonoch chi sydd wedi dod ar draws hyn o’r blaen, beth ydych
>>>>>> chi’n ei roi yn Gymraeg? Mae ’na enghreifftiau o ‘ymgyflwyno’ ar y
>>>>>> we. Ai dyna’r gair arferol?
>>>>>>
>>>>>> Diolch.
>>>>>> Claire
>>>>>>
>>>>>> Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a
>>>>>> Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa
>>>>>> gofrestredig yw 46A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14
>>>>>> 1DJ.
>>>>>>
>>>>>> Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales
>>>>>> under the number 4276774, and the address of the registered office is
>>>>>> 46A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DJ.
>>>>>>
>>>>>
>>>>
>>>>
>>>
>>>
>>
>>
>> -----
>> No virus found in this message.
>> Checked by AVG - www.avg.com
>> Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3199/5906 - Release Date: 06/12/13
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3199/5906 - Release Date: 06/12/13
|