Dyma ateb ges i gan Dewi Fflint (Delyn locks) - dwnim faint o help ydi hyn,
ond mae o'n rhoi gwasanaeth da iawn os byddwch angen trwsio clo ryw bryd -
[log in to unmask] neu 07977594707.
"Dwni'm a deud y gwir met, dibynnu be di pwrpas y cyfieithiad am wn I. Dwi'n
defnyddior term deadlock bob dydd ac yn siaradwr Cymraeg, ond bysa gen i
ddim syniad be di llwyrglo, felly pa siawns sy gan bobl os ydan nhw'n
darllen y cyfieithiad a ddim yn arbennigwr?
Fyswn i'n meddwl bod un term yn ddigonol ar gyfer shoot bolt a dead bolt gan
bo'r ddau term yn cael eu defnyddio bron ar hap gan gwmniau cynhyrchu cloeon
am yr un peth ac am bethau gwahanol - does dim diffiniad pendant o be di
shootbolt a be di deadbolt. Dwi'n meddwl mair gwahaniaeth ydi bod un yn cloi
yn awtomatig ar llall angen goriad i'w chloi. Byswn i jest yn defnyddior
term 'bollt' a deud 'bollt sy'n cloi'.
Lock snapping ydi techneg i dori clo ar agor os nad yw wedi ei osod yn
gywir. Be di snapping yn Gymraeg? Dwi'n deud snapio!
Y gwahaniaeth gyda 'deadlock' dros 'slamlock' gyda llaw ydi bod angen goriad
i'w gloi. Felly dyw'r term llwyrglo ddim yn awgrymu'r hyn syn ei neud yn
wahanol i bob math arall o glo.
----- Original Message -----
From: "Meinir Thomas" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, June 13, 2013 10:35 AM
Subject: "Deadbolts" a "Shootbolts"
Bore da,
Tybed a oes gan unrhyw un gyfieithiadau ar gyfer "deadbolts" a "shootbolts"?
Wedi dod o hyd i "deadlock", sef "llwyrglo", felly tybed a fyddai
"llwyrfolltau" yn iawn ar gyfer "deadbolts"?
Cofion,
Meinir
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3199/5906 - Release Date: 06/12/13
|