Gwell gan Bruce "Iago", ond gwelaf fod 'na ddadleuon ar y ddwy ochr.
Gan fod "Jacobeaidd" AC "Iagoaidd" ar gael yn Gymraeg, nid yw'r broblem yr
un fath.
A fyddai'r awdur yn fodlon ar rywbeth ar addasiad fel un o'r isod?
Pam ydym ni'n galw'r cyfnod hwn yn "Jacobean" yn Saesneg, ar ôl "Jacob", yn
hytrach na "Jamesian" ar ôl "James"?
Pam ydym ni weithiau'n galw'r cyfnod hwn yn "Jacobeaidd", ar ôl "Jacob", yn
ogystal ag "Iagoaidd", yn hytrach na "Jamesaidd" ar ôl "James"?
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Evans Jones
Sent: 16 May 2013 16:44
To: [log in to unmask]
Subject: James I
Gan gofio gwersi hanes yn y chweched dosbarth, dwi'n gwybod mai'r arferiad
yw defnyddio Harri am Henry a chadw Edward fel y mae (peidio defnyddio
Iorwerth). Tebyd a oes unrhyw un yn gwybod beth yw'r arferiad o ran cyfeirio
at James I - Iago ynteu James y cyntaf? Y broblem ydy, mae'r darn yn holi,
'Why is this period called 'Jacobean' after Jacob rather than 'Jamesian'
after James?' Mae 'Jamesaidd' wedi'i restru yn GyrA o dan 'Jamesian', a dwi
erioed wedi clywed 'Iagoaidd' (mae'n swnio'n chwithig iawn i mi). A yw'n
dderbyniol cadw at James felly?
|