Dwi wrthi’n cyfieithu casgliad o waith gan blant ynghylch adeilad hanesyddol, ac mae un plentyn wedi ysgrifennu jôc. Mewn un ystafell, mae pen carw a phen llwynog ar y wal – anifeiliaid a laddwyd gan heliwr, mae’n debyg – ac mae’r plentyn wedi ysgrifennu jôc yn seiliedig ar sgwrs ddychmygol rhwng y llwynog a’r hydd:
Dyma’r jôc:
FOX: Hey, look at those people drinking coffee!
STAG: No, that’s tea.
FOX: No, it’s coffee.
STAG: No, it’s tea.
FOX: Oh yes, so it is…..doh….
STAG: Doe? No, I’m a stag.
Wrth gwrs, fuasai’r jôc ddim yn gweithio yn Gymraeg, ond tybed a all unrhyw un ohonoch feddwl am jôc Cymraeg a fuasai'n gweithio yn y cyd-destun? Help!
|