Nid yw'n glir o hyd a ydych chi'n chwilio am un pysgodyn ynteu dau,
Sylvia. Sut ddaethoch chi o hyd i'r ddau enw?
Mae Bruce am dynnu sylw at "dragonfish" a "barbel" yn GyrA, ac yn gofyn
a fyddai "draig fo^r farfog" yn ddigonol ar gyfer "barbeled dragonfish",
neu, gan ddilyn yr enw Lladin, "draig fo^r ddu".
Er hynny, mae "dragonfish" yn enw braidd yn benagored. Gan mai "llaes
eich ge^n" a ddywedir yn GyrA am "slack-jawed", efallai y byddai
"pysgodyn genlaes", neu "pysgodyn genlais du" yn enw derbyniol ar y
"loosejaw".
'Rwy'n copio hyn at Llyr Gruffydd, rhag ofn y bydd ganddo sylwadau pellach.
Cofion,
Ann
On 31/05/2013 14:41, Jones,Sylvia Prys wrote:
> Sori, *llythrennol* oeddwn i'n feddwl. Gobeithio mod i'n llythrennog.
> Jones,Sylvia Prys wrote:
>> Diolch yn fawr iawn iawn Bethan.
>>
>> Rydw i wedi mynd i'r niwl ers talwm iawn!
>>
>> Mae'r ddau bysgodyn yn debyg iawn o ran eu golwg a'u nodweddion, sef:
>>
>>> Produces both red and blue-green bio-luminescent light to attract
>>> prey and mates.
>>
>> The rat trap/loose jaw can also dislocate its head in order to lunge
>> out with its lower jaw at prey.
>>
>> Dw i'n cael fy nhemtio i gyfieithu'n llythrennog gan fod y Saesneg yn
>> egluro'n reit dda un o brif nodweddion y pysgod hyn.
>>
>>
>> Bethan Jones wrote:
>>> Yr un genws ydyn nhw - Malacosteus, sef dragonfish.
>>> Y rhywogaeth ydi Malacosteus niger, y barbeled dragonfish.
>>> Mae'n ddrwg gen i ond dwi wir ddim yn gwybod ble i ddechrau bathu
>>> enw arno. Mae'n debyg y gellid defnyddio'r 'dragonfish', ond dwi'n
>>> mynd i'r niwl wedyn.
>>>
>>>
>>>
>>> Cofion
>>> Bethan
>>> 01248 723510
>>> 07713 862792
>>> [log in to unmask]
>>> Skype: bethan.wyn.jones.talwrn
>>> Cae Chwarel, Talwrn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TF
>>> -----Original Message----- From: Jones,Sylvia Prys
>>> Sent: Friday, May 31, 2013 1:47 PM
>>> To: [log in to unmask]
>>> Subject: Re: stoplight loosejaw fish /rat-trap fish
>>>
>>> Diolch Bethan
>>>
>>> Stoplight loosejaw fish - Malacosteus niger
>>>
>>>
>>>
>>> Rat-trap fish - Malacosteus sp.
>>>
>>> Rydw i'n cymryd felly mai'r un rhywogaeth ydyn nhw. (sp. = species?)
>>>
>>> Bethan Jones wrote:
>>>> Sgin ti enw gwyddonol arno fo Sylvia? Ella y basa hynny o gymorth.
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Cofion
>>>> Bethan
>>>> 01248 723510
>>>> 07713 862792
>>>> [log in to unmask]
>>>> Skype: bethan.wyn.jones.talwrn
>>>> Cae Chwarel, Talwrn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TF
>>>> -----Original Message----- From: Jones,Sylvia Prys
>>>> Sent: Friday, May 31, 2013 12:52 PM
>>>> To: [log in to unmask]
>>>> Subject: stoplight loosejaw fish /rat-trap fish
>>>>
>>>> Mae'r pysgod yma'n debyg iawn, mewn rhai erthyglau ar y we dywedir eu
>>>> bod nhw'n enwau gwahanol ar yr un pysgodyn.
>>>>
>>>>> Dosbarth: Achnopterygii
>>>>> Urdd: Stomiiformes
>>>>> Teulu: Stomiidae
>>>>
>>>> Rydw i wedi chwilio yn GyrA a Rhestr Termau Cymdeithas Edward Llwyd.
>>>>
>>>> Diolch.
>>>
>>>
>>
>>
>
>
|