Ond cyfeirio rhywun at feddyg, nid i feddyg, wrth gwrs.
Dwi ddim yn gweld o ble mae'r 'atgyfeirio' 'ma wedi dod - be di ystyr yr
'at-' ? I mi mae o'n golygu "yn ôl", e.e. atgyfodi = codi'n ôl, adalw =
galw'n ôl, adlamu = llamu'n ôl, atgoffa = dod â rhywbeth yn ôl i gof rhywun.
Cyfeirio rhywun at feddyg fyddwn i, nid atgyfeirio rhywun.
Newydd edrych yn GPC - atgyfeirio = (a) dychwelyd, adfer, cyfeirio'n ôl; (b)
crybwyll eilwaith
Geraint
----- Original Message -----
From: "Rhian Huws" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, May 23, 2013 2:30 PM
Subject: Re: Cyfeirio/atgyfeirio
O'm profiad i, 'atgyfeirio' gan amlaf ym maes iechyd.
Yn ôl y llyfryn 'Pa arddodiad' - 'cyfeirio at rywbeth' ond 'cyfeirio rywbeth
i rywle'.
Rhian
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eirian Youngman
Sent: 23 May 2013 14:19
To: [log in to unmask]
Subject: Cyfeirio/atgyfeirio
Cyd-destun meddygol.
Ai 'cyfeirio' neu 'atgyfeirio' sy'n gyffredin ar gyfer 'referral'?
Hefyd, ai cyfeirio/atgyfeirio 'i' neu 'at' feddyg neu wasanaeth sy'n gywir?
Diolch.
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3162/5849 - Release Date: 05/22/13
|