Rhywbeth fel "... ddim yn trafod faint o ofalu y maen nhw'n ei wneud" neu "... ddim yn trafod faint o ofalu y mae disgwyl iddyn nhw'i wneud" neu "…ddim yn trafod beth yn union y mae disgwyl iddyn nhw'i wneud wrth ofalu".?
Efallai?
Siân
On 2013 Mai 1, at 6:56 PM, Gareth Evans Jones wrote:
> Sut fuasech chi'n cyfieithu 'extent' yn y cyd-destun hwn, os gwelwch yn dda?
>
> Often young carers and their parents don´t talk about the extent of caring
>
> 'Maint y broblem' fuasai 'the extent of the problem' ond fuasai hynny ddim yn gwneud y tro yn y cyd-destun hwn.
>
> Mae 'extent' yn y dyfyniad hwn yn cyfeirio at faint y cyfrifoldeb mae'n rhaid i ofalwr ifanc ei ysgwyddo. Tybed a all unrhyw un ohonoch awgrymu ffordd gryno o gyfleu hyn, os gwelwch yn dda?
|