Yn ol OED, "A correlation between the states of two separate quantum
systems such that the behaviour of the two together is different from
the juxtaposition of the behaviours of each each considered alone."
Ond tybed ydy'r trosiad yn y Saesneg dal yn fyw? Ydy hi werth mynd yn ol
at y defnydd gwreiddiol a cheisio cyfieithu hwnnw. I mi mae'r dyfyniad
gwreiddiol yn OED (Erwin Schroedinger ym 1935) yn darllen fel defnydd
annechnegol o'r gair gyda'r ystyr cyffredin:
By the interaction the two representatives (or ψ-functions) have
become entangled. To disentangle them we must gather further
information by experiment... In what follows the whole of this
procedure will be called the disentanglement.
Pe byddai wedi bod yn ysgrifennu yn Gymraeg beth fyddai o wedi ei ddweud?
Eu bod nhw wedi gweu i'w gilydd, neu plethu i'w gilydd? Neu ydy rheini
i'w clywed yn rhy daclus? Mi rydw i'n chwilio am rhywbeth llai taclus,
fel perfedd moch, ond nad ydy perfeddion dau fochyn ddim yn cyd-ymdrybaedu
a'i gilydd yn andros o aml.
|