Yn ôl Geiriadur yr Academi a Cysgair, benywaidd yw prostad.
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Gareth Evans
Jones
Anfonwyd/Sent: 08 Ebrill 2013 22:40
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: prostate
Dwi wrthi'n cyfieithu taflen am ganser y prostad.
Wrth gyfeirio at 'prostate cancer', dwi'n cymryd mai 'canser y prostad' yw'r
ffurf ddylwn i ddefnyddio, nid 'canser y brostad'. Wedi dweud hynny, mae
gwefan ambell sefydliad, fel y GIG a Phrifysgol Caerdydd, yn cynnwys y ddwy
fersiwn.
Wrth gyfeirio at 'prostate gland' - chwarren brostad.
Beth am 'the prostate', e.e. yn y frawddeg 'The prostate is the size of a
walnut'? Lle mae'r Saesneg yn cyfeirio at 'the prostate', a ddylid defnyddio
'y chwarren brostad' yn Gymraeg? Dwi'n cymryd mai ffurf gryno o 'prostate
gland' ydy 'the prostate' - a ddylwn i gyfeirio ati'n ddi-feth fel 'y
chwarren brostad' yn Gymraeg? Mae 'y brostad' yn swnio'n chwithig braidd i
mi, am ryw reswm.
|