Mae 'na drafodaeth yn yr archif - ond dim byd wedi'i setlo hyd y gwela'i.
Cytuno bod 'golwg gyfyngedig' yn amwys Wyn. A deud y gwir, seddi eilradd
yw'r rhain ynde ond dydy hynny ddim wir yn cyfleu'r peth. Fel rheol, rhai ar
yr ochr ydyn nhw sy'n golygu nad oes modd gweld y llwyfan i gyd dw i'n
meddwl.
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Wyn Hobson
Anfonwyd/Sent: 02 Ebrill 2013 13:31
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Restricted view
Mewn theatr neu neuadd gyngerdd.
Dw i wedi canfod 'golwg gyfyngedig' ar y we, ond gall hynny olygu
'restricted vision' (h.y. problem gweld).
Oes ymadrodd arall yn cael ei arfer? 'Llinell weld gyfyngedig'? 'Llinell
weld gyfyng'?
Wyn
|