Dwi wrthi'n cyfieithu taflen am ganser y prostad.
Wrth gyfeirio at 'prostate cancer', dwi'n cymryd mai 'canser y prostad' yw'r ffurf ddylwn i ddefnyddio, nid 'canser y brostad'. Wedi dweud hynny, mae gwefan ambell sefydliad, fel y GIG a Phrifysgol Caerdydd, yn cynnwys y ddwy fersiwn.
Wrth gyfeirio at 'prostate gland' - chwarren brostad.
Beth am 'the prostate', e.e. yn y frawddeg 'The prostate is the size of a walnut'? Lle mae'r Saesneg yn cyfeirio at 'the prostate', a ddylid defnyddio 'y chwarren brostad' yn Gymraeg? Dwi'n cymryd mai ffurf gryno o 'prostate gland' ydy 'the prostate' - a ddylwn i gyfeirio ati'n ddi-feth fel 'y chwarren brostad' yn Gymraeg? Mae 'y brostad' yn swnio'n chwithig braidd i mi, am ryw reswm.
|